← 返回首页
Llwythwch Firefox ar gyfer y Bwrdd Gwaith — o Mozilla
Dewislen

Firefox Browser

Cymerwch reolaeth o'ch rhyngrwyd

Ewch ar-lein gyda llai o darfu, sŵn a straen. Rydyn ni'n chwa o awyr iach.

Gosod Firefox fel eich arferol.
Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Nodweddion diweddaraf Firefox

  • Tawelu pethau

    Rhwystrwch hysbysebion a gwella'ch preifatrwydd gyda gosodiadau y mae modd eu haddasu a llwyth o estyniadau y mae modd eu llwytho i lawr.

  • Amldasgio?

    Ewch i'r modd darllen, agorwch fideos a byddwch yn fwy trefnus gyda thabiau fertigol a grwpiau tabiau.

  • Cadw trefn ar eich holl dabiau

    Caewch gopïau dyblyg, chwiliwch a phiniwch dabiau agored - mae posibiliadau diddiwedd bron ar gyfer y nifer diddiwedd bron o dabiau sydd gennych ar agor.

Gweld y Nodiadau Rhyddhau

Cael y porwr sy'n eich helpu i gwblhau'ch gwaith

Rhwystro tracwyr hysbysebion heb godi bys

Mae tracwyr hysbysebion yn gwneud i dudalennau gwe lwytho'n arafach. Gyda Firefox, fydd dim rhaid i chi fynd i chwilio drwy'r gosodiadau i drwsio hynny, oherwydd rydym yn rhwystro'r rhan fwyaf o dracwyr yn awtomatig.

Gweld eich adroddiad diogelu

Dim tarfu mwyach

Cadwch eich sylw ar eich tasg gydag estyniadau fel Tomato Clock a Turn Off the Lights — maen nhw'n cael eu Hargymell, sef ein seren aur am fod â diogelwch ac ymarferoldeb eithriadol.

Eich pethau chi, ar eich holl sgriniau

Defnyddiwch Firefox symudol, fel bod eich cyfrineiriau, tabiau a hanes — a'r preifatrwydd a'r diogelwch rydych yn dibynnu arnyn nhw — yn mynd gyda chi ble bynnag rydych yn mynd iddo.

Mae preifatrwydd yn flaenoriaeth

Dyw eich data personol ddim ar werth. Mae tracwyr a chwcis trydydd parti'n cael eu rhwystro yn rhagosodedig, felly gallwch chi … bori.

Dysgu sut mae Firefox yn diogelu eich data

Eich un chi, *go iawn*

  • Gweithio'n glyfrach, chwarae'n galetach

    Archwiliwch y posibiliadau ar gyfer ymchwil, siopa a mwy gydag estyniadau.

  • Ffarwel, porwr diflas

    Gall y rhyngrwyd fod yn lle da, gyda thema'r ychwanegyn cywir .

Dim biliwnyddion ers 20+ mlynedd

Cafodd Firefox ei greu yn 2004 gan Mozilla fel dewis cyflymach, mwy preifat a mwy addasadwy i borwyr fel Internet Explorer. Heddiw, rydym yn dal i fod yn ddim-er-elw, yn dal heb fod yn eiddo i unrhyw biliwnydd ac yn dal i weithio i wneud y rhyngrwyd — a'r amser rydych chi'n ei dreulio arno — yn well.

Gosod Firefox fel eich arferol.
Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox
Cwestiynau? Mae gan Cymorth Mozilla yr atebion.

Cael Firefox Browser Android

Cael Firefox Browser iOS

Llwythwch i lawr y porwr symudol Firefox ar gyfer diogelwch awtomatig ar eich holl ddyfeisiau.

Rhagor am y porwyr bwrdd gwaith Firefox isod